Llun o'r Capel

Eglwys  Efengylaidd Caerfyrddin

Y Celwrn, Heol yr Hen Orsaf, Caerfyrddin, SA31 1JN


Dilynwch ni ar twitter: @Y_Fesen

ac ar Facebook: @eglwyscaerfyrddin

EGLWYS

Er bod y gair 'eglwys' yn aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adeilad arbennig, mewn gwirionedd y mae'r gair yn cyfeirio at gymdeithas o bobl. Yn y Testament Newydd mae'n cael ei ddefnyddio i sôn am bobl sy'n dod at ei gilydd am eu bod yn credu yn Iesu Grist fel eu Gwaredwr a'u Harglwydd.

EFENGYLAIDD

Ystyr 'efengyl' yw 'newyddion da'. Pobl y 'newyddion da' am Iesu Grist, felly, yw pobl 'efengylaidd' - pobl sy'n credu bod maddeuant pechodau, perthynas real â Duw, bywyd tragwyddol, ystyr newydd i fywyd, a llu o fendithion eraill i'w cael yn Iesu Grist.

CAERFYRDDIN

Rydym yn falch o gydnabod ein perthynas â Christnogion eraill ledled Cymru a thrwy'r byd. Ond ein dymuniad yw addoli a gwasanaethu'r Arglwydd Iesu Grist yma yng Nghaerfyrddin a'r ardaloedd oddi amgylch, a hynny drwy'r Gymraeg. Rydym yn cyfarfod yn ein hadeilad, 'Y Celwrn',  yn Heol yr Hen Orsaf.


HANES


Yn 1989 y ffurfiwyd Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerfyrddin gyda'r Parch Dafydd Morris yn weinidog arni. Roedd Eglwys Efengylaidd wedi'i sefydlu yng Nghaerfyrddin yn 1974 a oedd yn cynnal rhai gwasanaethau Cymraeg ac wrth i'r gwaith gynyddu teimlwyd mai'r ffordd orau i gyhoeddi'r efengyl i Gymry'r cylch fyddai sefydlu eglwys Gymraeg annibynnol. Mae'r ddwy eglwys yn dal i ystyried eu hunain yn chwaer eglwysi ac am 20 mlynedd roeddent yn cyfarfod yn yr un adeilad. Llwyddodd yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg i brynu adeilad yn Heol yr Hen Orsaf yn 2008, gan addoli yno am y tro cyntaf ddechrau Gorffennaf 2009. Er mai hanes diweddar yw hwn i gyd rydym hefyd yn arddel ein perthynas trwy ras â thraddodiad efengylaidd ardderchog tref Caerfyrddin, tref y ddau David Charles a'r dref lle y cyhoeddwyd gweithiau mawrion Williams Pantycelyn.

Ar 1 Mawrth 2017 dechreuodd y Parch Roger Thomas ar ei waith fel Efengylydd cyflogedig llawn amser yn yr eglwys, arwydd o'n hymrwymiad i gyhoeddi'r newyddion da am Iesu Grist i Gymry Caerfyrddin a'r cyffiniau, ac o'n hiraeth disgwylgar am i Dduw drugarhau wrthym fel eglwys, bro a chenedl.


ARWEINWYR

Henuriaid: Parry Davies; Robert Rhys

Efengylydd: Parch Roger Thomas 
07753 124668 
revrogerthomas@yahoo.co.uk

Diaconiaid: Huw Francis (trysorydd); Howie Jones; Gareth Morgan



Croeso i chi ymuno â ni yn ein cyfarfodydd yn 'Y Celwrn', Heol yr Hen Orsaf, ar y Sul neu ar nos Fercher.