Credwn:

  1. Credwn yn yr unig wir a bywiol Dduw, yn Drindod Sanctaidd o Bersonau Dwyfol mewn perffaith undod, yn Dad, Mab ac Ysbryd Glân, yn ogyfuwch ac yn ogyd-dragwyddol  â'i gilydd, ac yn benarglwyddiaethol yn y creu, mewn rhagluniaeth ac yn y prynedigaeth.
  2. Credwn yn Nuw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist sydd yn sanctaidd, yn gyfiawn, ac yn llawn gras, trugaredd a chariad. Yn ei gariad anfeidrol anfonodd ei Fab i’r byd, fel yr achubid y byd trwyddo Ef.
  3. Credwn yn yr Arglwydd Iesu Grist, Mab ymgnawdoledig Duw sydd  â'i wir ddyndod a’i berffaith dduwdod wedi eu dirgel gydgysylltu yn undod ei Berson dwyfol. Credwn yn ei enedigaeth wyrthiol, yn ei fywyd a’i ddysgeidiaeth berffaith, yn ei farwolaeth ddirprwyol iawnol ar y groes, lle y gorchfygodd Satan, pechod ac angau, yn ei atgyfodiad corfforol a’i esgyniad i’r nefoedd, lle y mae'n eistedd yn awr mewn gogoniant ar ddeheulaw Duw.
  4. Credwn yn yr Ysbryd Glân, trydydd Person y Duwdod, a bod ei waith yn anhepgorol i aileni’r pechadur, i’w dywys i edifeirwch, i roddi iddo ffydd yng Nghrist, i sancteiddio’r credadun yn y bywyd hwn a’i gymhwyso i fwynhau cymdeithas  â Duw. Er mwyn meddu grym ac effeithiolrwydd ysbrydol mae ei weinidogaeth yn gwbl angenrheidiol i’r Cristion unigol ac i’r Eglwys.
  5. Credwn fod pob dyn, fel canlyniad i’r Cwymp, yn bechadurus wrth natur. Y mae pechod yn halogi dynion, yn eu llywodraethu, yn llygru pob rhan o’u bodolaeth, yn eu gwneud yn euog gerbron Duw sanctaidd ac yn agored i’r gosb honno y mae ei ddigofaint a’i gondemniad ar bechod yn ei hawlio.
  6. Credwn mai trwy ffydd yn unig yn yr Arglwydd Iesu Grist y cyfiawnheir y pechadur gerbron Duw, a bod ei farwolaeth Ef yn iawn perffaith dros ein pechodau ac yn bodloni deddf Duw trosom. Yn lle cyfrif i ni ein pechodau y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder Crist i ni. Y mae’r iachawdwriaeth felly o ras ac nid o haeddiant dyn.
  7. Credwn y bydd i’r Arglwydd Iesu Grist ddychwelyd yn bersonol, yn weladwy ac yn ogoneddus i’r ddaear, i ddwyn y saint ato’i hun, ac i’w weled gan bawb yn ddiwahân. Fel y Barnwr cyfiawn bydd yn rhannu dynolryw yn ddau ddosbarth, ac yn ddau ddosbarth yn unig, sef y cadwedig a’r colledig. Achubir am dragwyddoldeb y rhai sydd â’u ffydd yng Nghrist, ac ânt i mewn i lawenydd eu Harglwydd gan rannu ag Ef ei etifeddiaeth yn y nef. Condemnir y di-gred i uffern, lle y cosbir hwy yn dragwyddol am eu pechodau o dan farn gyfiawn Duw.